Mae un o fyfyrwyr graddedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i choroni’n seren y dyfodol y diwydiant pobi mewn set o wobrau mawreddog y diwydiant.
Fe wnaeth Nishitha Kannan, a raddiodd eleni gyda gradd meistr Gwyddor a Thechnoleg Bwyd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ennill teitl Seren y Dyfodol yng Ngwobrau’r Diwydiant Pobi 2022. Nod y wobr yw taflu goleuni ar y doniau gorau a mwyaf disglair yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd.
Canmolodd y beirniaid Nishitha am ei “hawch am wybodaeth bobi a’i hymroddiad i ddatblygiad technegol a phroffesiynol.”
Wrth gystadlu yn erbyn y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o’r DU, roedd Nishitha wrth ei bodd o gael ei henwi fel yr enillydd mewn seremoni a gynhaliwyd yng ngwesty’r Royal Lancaster yn Llundain ar 20 Hydref.
Dywedodd Nishitha: “Rydw i mor hapus fy mod i wedi ennill y wobr hon. Mae cael fy enwi’n seren y dyfodol y diwydiant pobi yn ystod y cam hwn o’m gyrfa’n teimlo fel anrhydedd enfawr.
“Hoffwn ddiolch o galon i fy rhieni, fy mrawd, fy ffrind gorau Puneeth a’r staff o Brifysgol Met Caerdydd sydd i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn fy llwyddiant.”
Symudodd Nishitha, sy’n hanu’n wreiddiol o Chennai yn India, i Gymru yn 2021 i gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ystod ei hastudiaethau, defnyddiodd Nishitha’r cyfleusterau becws o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE y brifysgol i gynnal prosiect ymchwil ymarferol yn edrych ar rôl ffurfio glwten wrth gynhyrchu bara. Ymgymerodd hefyd â phrosiect datblygu cynnyrch newydd ar gyfer adwerthwr mawr yn y DU a chafodd ei henwebu fel Pobydd y Genhedlaeth Nesaf gan Puratos, gwneuthurwr cynhwysion pobi.
Mae’n deg dweud bod Nishitha wedi dysgu llawer yn ystod ei 12 mis yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Nishitha, “Mae’r cwrs ym Met Caerdydd yn ymdrin â llawer o feysydd, p’un a ydych am weithio ym maes ansawdd, microbioleg, datblygu cynnyrch newydd, neu ymchwil a datblygu. Gall fynd â chi i ble bynnag yr hoffech fynd. Mae’r darlithwyr yn anhygoel hefyd. Pryd bynnag y byddwch yn gofyn am help, daw’r ymateb ar unwaith.”
Ers gorffen ei hastudiaethau, mae Nishitha wedi dechrau gweithio fel Technegydd Labordy Bwyd DCN ar gyfer Biocatalysts yn Nantgarw ger Caerdydd, lle mae’n datblygu ensymau newydd a chyfuniadau o ensymau y gellir eu defnyddio yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd.
“Y rheswm pam rydych chi’n gwneud gradd meistr yw er mwyn cael swydd, ac fe ges i hynny, felly bu’n beth gwych i mi,” meddai Nishitha.
I ddysgu mwy am y radd meistr Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ewch i:
https://www.metcaerdydd.ac.uk/sportandhealthsciences/courses/Pages/Food-Science-and-Technology—MSc-PgD.aspx