Mae ymchwil cydweithredol agosach ym maes gwyddor bwyd ar fin digwydd rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Talaith Ohio yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MCDd) rhwng y ddau sefydliad.
Sefydlwyd y MCDd gan Dr Ellen Evans o Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Met Caerdydd a Dr Sanja Ilic o Goleg y Gwyddorau Bwyd, Amaethyddol ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Talaith Ohio.
Bydd ffocws y cytundeb ar ymchwil diogelwch bwyd, sy’n canolbwyntio ar grwpiau o gleifion agored i niwed, a gynhelir gan y ddau sefydliad. Mae data’n cael ei gasglu ar hyn o bryd yn UDA i edrych ar hyfforddiant diogelwch bwyd deietegwyr ac mae’r cydweithrediad eisoes wedi arwain at ddau gyhoeddiad a phedwar cyfraniad at gynadleddau, gyda mwy yn yr arfaeth yn barod.
Mae Dr Evans hefyd yn cynghori myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Talaith Ohio, sy’n defnyddio canfyddiadau cynnyrch ymchwil a ariannwyd gan Tenovus a gynhaliwyd yn ZERO2FIVE fel sylfaen ar gyfer datblygu ymyriadau diogelwch bwyd wedi’u targedu i bobl sy’n derbyn triniaeth canser.
I gyd-fynd â’r cytundeb ymchwil, teithiodd Dr Ellen Evans i Brifysgol Talaith Ohio i gymryd rhan mewn seminar MCDd, lle bu’n trafod gwobrau Prifysgol Met Caerdydd, allbynnau diweddar Prosiect HELIX Arloesi Bwyd Cymru a thri phrif faes yr ymchwil a wneir yn ZERO2FIVE.
Dywedodd Dr Ellen Evans, Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
“Mae’r cydweithredu rhwng Prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol Talaith Ohio eisoes wedi arwain at gyfres o gyhoeddiadau ymchwil dylanwadol. Gyda’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn ar waith, byddwn yn gallu cyflawni rhagor o ymchwil pwysig gyda’n gilydd a fydd yn helpu i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag risg salwch a gludir gan fwyd.”
Llofnodwyd y MCDd ar ran Prifysgol Met Caerdydd gan yr Athro Katie Thirlaway, Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, a ddywedodd:
“Un o flaenoriaethau strategol Prifysgol Met Caerdydd yw meithrin a chryfhau ein cysylltiadau byd-eang drwy gysylltu â phrifysgolion partner ar draws y byd i gynhyrchu ymchwil sydd â pherthnasedd ac effaith fyd-eang. Mae’r MCDd hwn yn enghraifft amlwg o’r math o gysylltiad cydweithredol yr ydym yn ceisio ei greu.”