Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn manteisio ar y duedd o ddefnyddio ffriwr aer diolch i gefnogaeth prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Cynorthwywyd Puffin Produce o Sir Benfro a Lewis Pies o Abertawe i ddatblygu cyfarwyddiadau coginio gyda ffriwyr aer ar gyfer eu hystod o gynnyrch o ganlyniad i gefnogaeth technegol wedi’i ariannu gan Brosiect HELIX. Gyda 45% o gartrefi bellach yn berchen ar ffriwr aer , mae wedi caniatáu i’r ddau gwmni fanteisio ar duedd ymhlith defnyddwyr sydd wedi ysgubo ar draws y DU.
Cyflwynir Prosiect HELIX gan dair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru. Mae’r prosiect yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth technegol a masnachol wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod o Gymru, gan gynnwys cefnogaeth gyda rheoli diogelwch bwyd, datblygu cynnyrch newydd ac effeithlonrwydd prosesau.
Cysylltodd Puffin Produce, y cyflenwr mwyaf o gynnyrch Cymreig yng Nghymru, â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i ofyn am gefnogaeth gyda’r broses o ddiweddaru’r pecynnau ar gyfer eu hystod o datws Root Zero garbon niwtral.
Cynhaliodd yr arbenigwyr technegol yn ZERO2FIVE gyfres o dreialon coginio gan ddefnyddio pedwar brand gwahanol o ffrïwyr aer o’r un watedd a maint. Galluogodd profion dro ar ôl tro ddatblygiad cyfarwyddiadau coginio gyda ffriwr aer a arweiniodd at datws wedi’u rhostio a’u lletemu gyda’r nodweddion gweledol, gweadol, tymheredd a blas gorau posibl.
Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Puffin Produce:
“Mae’r gefnogaeth gydweithredol gan Brosiect HELIX wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu i fanteisio ar y duedd i goginio gyda ffriwr aer. Fel dull mwy ynni-effeithlon o goginio, roeddem yn teimlo ei fod yn cyd-fynd yn dda â’n hystod Root Zero. Yn seiliedig ar lwyddiant y prosiect, rydym eisoes wedi gweithio gyda ZERO2FIVE i ddatblygu cyfarwyddiadau coginio gyda ffriwr aer ar gyfer ein dewis Blas y Tir hefyd.”

Cysylltodd Lewis Pies o Abertawe hefyd â ZERO2FIVE am gefnogaeth gydag ailwampio eu hystod arobryn o basteiod moethus Wilfred.
Unwaith eto, cynhaliodd yr arbenigwyr technegol yn ZERO2FIVE gyfres o dreialon coginio i ddatblygu cyfarwyddiadau coginio gyda ffriwr aer a arweiniodd at dymheredd cynnyrch mewnol diogel yn ogystal â’r ymddangosiad, blas a’r gwead gorau posibl.
Dywedodd Emma Burgess, Rheolwr Technegol, Lewis Pies:
“Mae’r gefnogaeth technegol gan ZERO2FIVE wedi ein galluogi i ymateb mor gyflym â phosibl i’r galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gyfarwyddiadau coginio gyda ffriwr aer. Rydyn ni eisoes yn bwriadu cyflwyno cyfarwyddiadau coginio gyda ffriwr aer ar draws ein hystodau eraill a byddwn yn sicr yn cysylltu â ZERO2FIVE am gefnogaeth pan fyddwn yn gwneud hynny.”

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
“Mae’n hanfodol bwysig bod cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cadw ar ben y tueddiadau diweddaraf fel y gallant barhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad. Boed hynny’n ymwneud â datblygu cyfarwyddiadau coginio peiriant ffrio aer, ailfformiwleiddio cynhyrchion presennol i’w gwneud yn iachach, neu ddadansoddi prosesau llawr ffatri i leihau gwastraff, gall Prosiect HELIX gynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod o Gymru.”
I gael gwybod mwy am y cymorth a ariennir gan Brosiect HELIX sydd ar gael i gwmnïau bwyd a diod o Gymru drwy Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, cysylltwch â ni.