Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Cwmni Creu Siocledi Moethus yn sicrhau cefnogaeth gan raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru

3 min read 13/10/2025

An open box of Bossa Nova chocolates

Mae cwmni creu siocledi moethus o Gasnewydd wedi sicrhau ardystiad diogelwch bwyd pwysig, a fydd yn eu galluogi i gyflwyno eu cynnyrch i brynwyr blaenllaw yn y diwydiant yn Blas Cymru / Taste Wales, diolch i gefnogaeth gan Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.

Mae Bossa Nova, cynhyrchydd tryffls siocled yn arddull Brasil wedi’u gwneud â llaw, wedi llwyddo i sicrhau ardystiad SALSA yn dilyn cefnogaeth dechnegol gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

SALSA yw un o’r cynlluniau ardystio diogelwch bwyd a diod mwyaf cydnabyddedig y DU ac mae’n bwysig i lawer o weithgynhyrchwyr bwyd a diod gan ei fod yn dangos eu bod yn gweithredu yn unol â safonau diogelwch bwyd a diod a gydnabyddir gan y diwydiant. Mae sicrhau ardystiad SALSA yn golygu y gall Bossa Nova fynychu Blas Cymru / Taste Wales, prif ddigwyddiad yng Nghymru ar gyfer y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Wedi’i sefydlu yn 2019 gan Andrea Staggemeier, a aned ym Mrasil, daw’r Bossa Nova o’i chariad at arddull cerddoriaeth Brasil. Drwy Raglen HELIX, a elwid gynt yn Brosiect HELIX, darparodd ZERO2FIVE ystod o gefnogaeth i’r cwmni, gan gynnwys cefnogaeth gyda gwelliannau i wella oes silff ac effeithlonrwydd prosesau.

Er mwyn tyfu’r busnes ymhellach, symudodd Bossa Nova i gyfleuster cynhyrchu mwy yn 2025. Cefnogodd ZERO2FIVE y cwmni gyda dyluniad safle eu ffatri newydd, gan helpu’r cwmni i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion rheoleiddio ac yn galluogi cynhyrchu effeithlon, o ansawdd a diogel. Aeth Bossa Nova hefyd ati i sicrhau ardystiad SALSA.

I ddechrau, mynychodd Andrea weithdy SALSA hanner diwrnod yn ZERO2FIVE, a roddodd drosolwg o ofynion y safon. Yna, darparodd technolegydd ZERO2FIVE gefnogaeth fentora un-i-un, gan ganolbwyntio ar wahanol adrannau o’r safon SALSA, o reolaethau rhagofynnol a HACCP i systemau rheoli ac adeiladau. Hefyd, cynnigodd ZERO2FIVE dempledi i’r cwmni y gellid eu haddasu i’w system rheoli diogelwch bwyd bwrpasol eu hunain.

Cyn archwiliad SALSA Bossa Nova, cynhaliodd ZERO2FIVE rag-archwiliad, er mwyn helpu’r cwmni i ddeall beth i’w ddisgwyl gan y peth go iawn ac i wneud unrhyw welliannau.

Andrea Staggemeier, Perchennog, Bossa Nova
Andrea Staggemeier, Perchennog, Bossa Nova

Llwyddodd Bossa Nova i basio eu harchwiliad SALSA ym mis Awst 2025 gan alluogi’r cwmni i sicrhau eu lle yn Blas Cymru / Taste Wales yng Nghasnewydd ym mis Hydref 2025. Bydd y digwyddiad hwn yn caniatáu i’r cwmni arddangos eu cynnyrch i brynwyr manwerthu a gwasanaeth bwyd o bob cwr o’r DU a ledled y byd. Mae sicrhau ardystiad SALSA yn golygu y gall Bossa Nova gyflenwi eu siocledi i gwsmeriaid mwy sy’n gofyn am yr ardystiad.

Dywedodd Andrea Staggemeier, Perchennog, Bossa Nova:

“Diolch i gefnogaeth anhygoel gan ZERO2FIVE, llwyddais i sicrhau ardystiad SALSA. Mae SALSA yn hanfodol i’m cynllun i dyfu’r busnes, a bydd yn agor cymaint o gyfleoedd newydd i ddarpar gwsmeriaid. Fe ddes i o ddiwydiant gwahanol i fyd bwyd, ac felly mae gwybodaeth ZERO2FIVE wedi bod yn hanfodol i fusnes bach fel fy un i.”

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

“Mae hi bob amser yn wych gweld gwneuthurwr bwyd a diod o Gymru fel Bossa Nova yn cymryd y cam nesaf yn eu taith twf p ganlyniad i’n cefnogaeth ni a’u gwaith caled nhw.” Mae sicrhau ardystiad diogelwch bwyd trydydd parti fel SALSA neu BRCGS yn un o’r ffyrdd gorau i gwmnïau dyfu a gallwn gynnig amrywiaeth o gefnogaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i gyflawni hyn.”

Mae Rhaglen HELIX yn cael ei chyflwyno gan bedwar sefydliad ledled Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth technegol ac arloesi wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod Cymru.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni