Mae gwneuthurwr cacennau dathlu ‘rhydd rhag’ o’r Coed-duon wedi tyfu ei drosiant o 65% gyda chefnogaeth gweithiwr cyswllt Datblygu Cynnyrch Newydd a ymunodd â’r cwmni drwy broject a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r UE.
Mae’r Just Love Food Company, y’i sefydlwyd yn 2010, yn gwerthu ei ddewis o gacennau dathlu sy’n gyfeillgar i alergeddau i sawl un o fanwerthwyr mwyaf y DU, gan gynnwys Tesco, Asda, Sainsbury’s, Morrisons a Waitrose. Fe’i harweinir gan Mike Woods, a sefydlodd y busnes pan ddarganfu pa mor anodd oedd prynu cacennau dathlu rhydd rhag cnau i’w blant, sy’n dioddef o alergeddau difrifol.
Meddai Mike Woods, Prif Weithredwr y Just Love Food Company: “Cyn y Just Love Food Company, doedd dim un gacen ben-blwydd o’r siop ar gael ar y farchnad y gellid gwarantu ei bod yn rhydd rhag cnau. Nawr, rydyn ni’n cyflogi tua 100 o bobl a hefyd yn cynhyrchu cacennau heb glwten, heb laeth a heb wyau.”
Yn 2019, gwelodd Mike gyfle i dyfu’r busnes ymhellach drwy arbenigo mewn cacennau figan, ‘rhydd rhag’.
“Aethom ati o safbwynt yn seiliedig ar alergeddau. Roedd yn gwarantu na fyddai unrhyw rybuddion ‘gall gynnwys wyau’ neu ‘gall gynnwys llaeth’ ar y cynnyrch,” meddai Mike.
I gyflawni’r twf a ddymunir yn y busnes, bu’n rhaid i Mike ehangu galluoedd technegol Just Love hefyd, ac felly trodd at Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am gefnogaeth.
“Siaradais â’r tîm yn ZERO2FIVE a gofynnais sut y gallen nhw helpu, a phan glywais am Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth Project HELIX, roedd hi’n teimlo’n berffaith,” meddai Mike.
Mae Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Project HELIX, a gyflwynir gan ZERO2FIVE, yn cyflogi gweithwyr cyswllt technegol neu werthu a marchnata y’u hariannir yn rhannol, a’u gosod mewn cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru gyda chefnogaeth lawn gan dîm ZERO2FIVE.
Dywedodd Mike: “Mae’n anodd pan rydych chi yng nghanol pandemig; beth allwch chi ei fforddio pan fo gennych uchelgeisiau? A allwn i fynd allan i dalu’r raddfa gyfredol i berson technegol? Na, allwn i ddim. Roedd y Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth yn bont a’n galluogodd i dyfu’r busnes mewn amgylchedd ariannol anodd.”
Yn 2021, recriwtiwyd Justyna Borowska gan Just Love Foods fel cyswllt Datblygu Cynnyrch Newydd (DCN). Roedd Justyna, a oedd â phum mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu bwyd, wedi gweithio’n flaenorol fel Technolegydd Bwyd a Thechnegydd Ansawdd i fecws a gwneuthurwr cacennau.
Yn Just Love Foods, mae Justyna’n gweithio gyda’r rheolwr DCN, Lisa Rogers, i ganolbwyntio ar gydymffurfiaeth dechnegol cyflenwyr, gan asesu risg cynhwysion ar gyfer presenoldeb alergenau.
Meddai Mike: “Os oes angen deunyddiau crai newydd arnom i ddatblygu mathau o gynnyrch newydd, mae’n rhaid i ni weithio gyda chyflenwyr y gallwn ddatblygu ymddiriedaeth ynddynt a gwybod eu bod nhw’n mynd i gyflawni. Mae’n rhaid i ni hefyd fod yn hyderus bod y cyflenwyr sydd wedi bod gyda ni am gyfnod hir yn gallu tyfu a datblygu gyda ni.”

Ers ymuno â’r cwmni dros flwyddyn yn ôl, mae Justyna wedi datblygu llu o sgiliau newydd.
Meddai Justyna Borowska, cyswllt Datblygu Cynnyrch Newydd (DCN), Just Love Foods:
“Rydw i wedi dysgu llawer am wahanol gamau datblygu cynnyrch newydd a beth mae manwerthwyr yn chwilio amdano pan fyddan nhw eisiau prynu cynnyrch. Rydw i hefyd wedi dysgu pa mor bwysig yw cynhyrchu cacennau sy’n ddiogel i bobl ag alergeddau. Mae’n broses anodd, ond mae’n rhoi boddhad mawr.”
Mae Justyna’n amlwg yn gweld manteision cysylltiadau’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth â’r tîm yn ZERO2FIVE.
“Dwi wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan y technolegwyr yn ZERO2FIVE. Gallaf ofyn i fy mentor am gyngor pryd bynnag y bydd ei angen arnaf,” dywedodd.
Mae dyfodiad Justyna i Just Love Foods wedi galluogi Mike i gyflawni’r twf busnes a fwriadwyd ganddo.
“Ers i Justyna ymuno, mae ein trosiant wedi tyfu o fwy na 65% ac ni fyddai wedi bod yn bosib heb fod y strwythurau technegol mwy cadarn hynny ar waith. Mae Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Project HELIX wedi helpu’r busnes i dyfu ac mae wedi bod o gymorth i greu sylfaen a fydd yn helpu’r twf i barhau,” meddai Mike.
Ariennir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Project HELIX trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, y’i hariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.