Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar fin cynnal cyfres o weithdai datblygu cynnyrch newydd sydd wedi’u targedu at fusnesau bwyd a diod newydd o Gymru a busnesau newydd sy’n dechrau arni.
Bydd y gweithdai sydd wedi’u hariannu’n llawn, a gynhelir ar Gampws Llandaf y brifysgol, yn mynd â chwmnĂŻau drwy’r holl ymagweddau’r Porth at ddatblygu cynnyrch newydd o’r cysyniad hyd at y lansiad. Mae’r dull hwn yn annog datblygiad cynhyrchion bwyd a diod newydd llwyddiannus ac wedi’u hail-fformiwleiddio sy’n bodloni galw defnyddwyr ac sy’n ariannol hyfyw.
Wedi’u hariannu drwy Brosiect HELIX Llywodraeth Cymru, mae’r gweithdai datblygu cynnyrch newydd yn rhan o gyfres, ond gall cwmnïau fynychu gweithdai unigol a fydd yn gweddu i’w hanghenion busnes unigol.
Wrth siarad am y digwyddiadau, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE,
“Mae datblygu cynnyrch newydd arloesol yn bwysig i dwf diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ond gall fod yn her i fusnesau bach a chanolig sydd ag adnoddau cyfyngedig. Drwy fynychu ein cyfres o weithdai, bydd cwmnïau’n cael eu cefnogi i fabwysiadu dull cadarn o ddatblygu cynnyrch a all helpu i wella eu cyfradd llwyddiant.”
Mae’r gweithdai’n ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Adeiladu Briff – Dydd Iau 10 Hydref, 10yb – 1yp – Er mwyn datblygu a lansio cynhyrchion newydd llwyddiannus, mae angen i gwmnĂŻau ddechrau gyda briff datblygu cynnyrch newydd cynhwysfawr.Â
- Proses y Porth – Dydd Mawrth 22 Hydref, 9.30yb – 1.30yp – Yn y gweithdy hwn, bydd cwmnïau’n dysgu sut i ddatblygu a gweithredu eu hymagwedd Porth at ddatblygu cynnyrch newydd.
- Datblygu Cynnyrch Diogel – Dydd Iau 31 Hydref, 9.30yb – 1.30yp – Bydd y gweithdy hwn yn datgelu ystyriaethau diogelwch bwyd allweddol cyn lansio cynnyrch newydd.
- Gofynion Labelu Cyfreithiol – Dydd Mawrth 12 Tachwedd, 9.30yb – 1.30yp – Ar Ă´l cwblhau rysáit cynnyrch, mae angen i gwmnĂŻau feddwl am y wybodaeth a fydd yn cael ei hargraffu ar eu pecynnau a pha ddeddfwriaeth y mae’n rhaid cydymffurfio â hi.
- Ymwybyddiaeth Synhwyraidd Sylfaenol – Dydd Iau 5 Rhagfyr, 9.30yb – 1.30yp – Mae’r gweithdy hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n ystyried cynnal profion blas defnyddwyr neu sydd am gyflwyno paneli blasu i’w dulliau profi cynnyrch.