Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Busnes newydd bwyd a diod o Gaerdydd yn dod o hyd i’w mojo gyda chymorth rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru

2 min read 16/10/2024

Cardiff-based start-up Cancha Mojo standing with product

Mae cwmni newydd o Gaerdydd, Cancha Mojo, wedi lansio’n llwyddiannus i’r farchnad yn dilyn cymorth technegol a ddarparwyd drwy Brosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cancha Mojo, sy’n eiddo i Carmen Roberts, yn cynhyrchu amrywiaeth o sawsiau mojo traddodiadol sy’n tarddu o’r Ynysoedd Dedwydd. Gellir defnyddio’r cynhyrchion amlbwrpas hyn fel dip, marinâd, dresin neu saws.

Wrth siarad am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w busnes, dywedodd Carmen:

“Ces i fy ngeni yn Ne Cymru ond mae mam yn dod yn wreiddiol o’r Canaries a dyna o ble mae fy nghariad at saws mojo yn dod. Ychydig flynyddoedd yn ôl sylweddolais nad oeddech yn gallu prynu saws mojo ffres yn y DU a dyna pryd y dechreuais feddwl am ddatblygu fy nghynnyrch fy hun.”

Ar ôl creu ei ryseitiau cychwynnol, cyfeiriwyd Carmen at Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Ionawr 2024 pan oedd yn y broses o gofrestru fel busnes bwyd gyda Chyngor Caerdydd.

Mae ZERO2FIVE, sy’n un o dair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru, yn darparu cymorth technegol a masnachol wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod cymwys drwy Brosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mynychodd Carmen gyfres o weithdai HACCP am y tro cyntaf yn ZERO2FIVE, a fu’n gymorth iddi gyda’r camau cychwynnol o ddatblygu cynllun rheoli diogelwch bwyd i gynhyrchu ei sawsiau Mojo. Yna darparodd technolegydd ZERO2FIVE gefnogaeth un-i-un bwrpasol i’w helpu i sicrhau bod unrhyw risgiau diogelwch bwyd yn cael eu dileu neu eu lleihau i lefelau diogel. Cafodd Carmen ei mentora hefyd i bennu oes silff cynnyrch trwy brofion pH a dehongli canlyniadau labordy microbiolegol.

Yn dilyn cefnogaeth gan ZERO2FIVE, llwyddodd Cancha Mojo i gael sgôr hylendid bwyd o bump gan Iechyd yr Amgylchedd ac mae cynhyrchion y cwmni bellach ar werth ym marchnadoedd ffermwyr Caerdydd gyda chynlluniau iddynt gael eu stocio gan siopau delicatessen lleol hefyd.

Wrth siarad am effaith y gefnogaeth gan ZERO2FIVE, dywedodd Carmen:

“O’r diwrnod cyntaf, helpodd ZERO2FIVE i droi fy syniadau’n realiti gyda’u harweiniad arbenigol a’u cefnogaeth ddiwyro. Nid yw’n or-ddweud dweud na fyddai fy musnes yn bodoli heb eu cymorth. Roedd ZERO2FIVE yn deall fy ngweledigaeth ac yn cynnig cyngor wedi’i deilwra a oedd wir wedi gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn annog unrhyw un mewn sefyllfa debyg i gofrestru a manteisio ar y fenter anhygoel hon.”

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

“O fusnesau newydd bach i gwmnïau mawr sefydledig, mae Prosiect HELIX yn darparu amrywiaeth o gymorth technegol a masnachol a all helpu cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i dyfu a chyrraedd marchnadoedd newydd. Mae’n wych gweld bod y cymorth rydyn ni wedi’i ddarparu wedi helpu busnes Cymreig newydd cyffrous i gychwyn.”

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni