Mae bron i 200 o weithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd a diod wedi ymgynnull yng Nghaerdydd yr wythnos hon i drafod gwytnwch diogelwch bwyd yn y 20fed cynhadledd flynyddol Cymdeithas Diogelu Bwyd y Deyrnas Unedig (UKAFP).
Wedi’i threfnu gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae cynhadledd UKAFP yn dod â busnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod ynghyd ag academyddion a gweithwyr iechyd yr amgylchedd proffesiynol.
Dywedodd Helen Taylor, Cyfarwyddwr Technegol, Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
“Fel gweithwyr proffesiynol diogelwch bwyd, ni fu erioed mor bwysig i ni ddod at ein gilydd i drafod y wyddoniaeth a’r atebion diweddaraf fel y gallwn barhau i ymateb i’r heriau a wynebir yn y dirwedd fwyd hon sy’n esblygu’n barhaus a’u goresgyn.”
“Mae diogelwch bwyd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ddefnyddwyr ac mae’n hollbwysig ein bod ni, fel gweithwyr proffesiynol diogelwch bwyd, yn rhannu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd er mwyn parhau i adeiladu sector diogelwch bwyd gwydn a chadarn yng Nghymru a thu hwnt.”
Clywodd y cynrychiolwyr gan Carmel Lynskey, dirprwy gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar sut mae’r ASB yn meithrin gwytnwch mewn rheoleiddio, a gan yr Athro Louise Manning o Sefydliad Technoleg Bwyd-Amaeth Lincoln ar sut rydym yn gwneud cadwyni cyflenwi bwyd yn fwy gwydn. Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Dr Benjamin Johns, gwyddonydd clinigol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad am y rôl y mae’n ei chwarae mewn diogelwch bwyd yng Nghymru, John Figgins, uwch reolwr technegol yn BRCGS yn rhoi mewnwelediadau o safbwynt archwilio trydydd parti a Dr Rachel Ward, gwyddonydd rheoli yn Exponent yn siarad am wytnwch wrth drin argyfwng diogelwch bwyd.
Dywedodd Carmel Lynskey, Pennaeth Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes, yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae’r diwydiant bwyd heddiw wedi dod yn bell o’r adeg pan basiwyd y ddeddf diogelwch bwyd dri degawd yn ôl, felly rydym yn datblygu ffyrdd newydd o gynnal arolygiaeth reoleiddiol effeithiol dros system fwyd fwy amrywiol a chymhleth.
“Mae rheoleiddio effeithiol yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal hyder defnyddwyr a chefnogi busnesau. Er mwyn parhau i gynnal y safonau uchel o ddiogelwch bwyd yr ydym yn eu mwynhau yn y DU, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i gadw bwyd yn ddiogel a dod o hyd i’r ffordd ddoethaf i amddiffyn miliynau o ddefnyddwyr.”
Gan redeg ochr yn ochr â rhaglen y gynhadledd, cynhaliodd UKAFP a ZERO2FIVE gystadleuaeth poster ar gyfer myfyrwyr a gwyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa i gyflwyno eu hymchwil i’r cynrychiolwyr. Dyfarnwyd gwobr o £100 i’r poster gorau ar ddiwedd y gynhadledd.
Mae’r UKAFP yn bodoli i ddarparu fforwm i weithwyr proffesiynol diogelwch bwyd y DU gyfnewid gwybodaeth am ddiogelu’r gadwyn cyflenwi bwyd. Mae’r gymdeithas yn cynrychioli pobl sy’n ymwneud â phob agwedd ar dyfu, storio, cludo, prosesu a pharatoi bwydydd gan gynnwys addysgwyr, swyddogion y llywodraeth, microbiolegwyr, swyddogion gweithredol y diwydiant bwyd a gweithwyr proffesiynol rheoli ansawdd.