
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn ymroddedig i gefnogi busnesau bwyd a diod.
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’n cyfuno arbenigedd technegol, mewnwelediad ac ymchwil i helpu i adeiladu busnesau bwyd mwy arloesol, gwydn a llwyddiannus.
Mae’r gwasanaethau cymorth a gynigir i fusnesau yn cynnwys ardystio diogelwch bwyd, datblygu cynnyrch newydd, mewnwelediadau i’r farchnad, pecynnu, gwerthuso synhwyraidd, diwygio cynnyrch, effeithlonrwydd prosesau a lleihau gwastraff.
Drwy ei arbenigedd technegol, proffesiynol ac academaidd, mae ZERO2FIVE wedi adeiladu enw da rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth yn y meysydd hyn.
Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu busnesau i ddechrau a thyfu, torri i farchnadoedd newydd, lleihau eu hallyriadau carbon a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran diogelwch bwyd. Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cael eu cefnogi’n ariannol i fusnesau gan Lywodraeth Cymru o dan ei rhaglen flaenllaw, Prosiect HELIX.
Mae ZERO2FIVE yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i’w defnyddio gan fusnesau. Mae’r rhain yn cynnwys ystafell synhwyraidd i ddefnyddwyr, pedwar maes prosesu bwyd gwahanol, cegin ddatblygu a chegin arsylwi defnyddwyr.
Mae ZERO2FIVE wrth wraidd y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru – fel partner dibynadwy i’r llywodraeth, fel cynghorydd ar lefel Prif Swyddog Gweithredol ar draws y diwydiant ac fel sbardun trosglwyddo gwybodaeth rhwng y Brifysgol a busnes.
Diogelwch bwyd yw ein prif flaenoriaeth, a dyna pam rydyn ni’n cael ein galw’n ZERO2FIVE oherwydd 0 i 5°C yw’r tymheredd gweithredu diogel ar gyfer oergell.

Mae ZERO2FIVE yn falch o fod yn rhan o Arloesi Bwyd Cymru
Mae Arloesi Bwyd Cymru yn dwyn ynghyd dair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n ymroddedig i annog datblygiad y sector bwyd yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan: arloesibwyd.cymru
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.